Principal Club Sponsor - Watkin Property Ventures
Back

Login

Don’t have an account?Register
Powered By
Pitchero
News & EventsLatest NewsCalendar
Neges Nagolig y Cadeirydd

Neges Nagolig y Cadeirydd

Jonathan Ervine24 Dec 2024 - 14:56

Diweddariad gan Glynne Roberts

Wrth i ni agosau at ein chweched Nadolig, gallwn edrych yn ôl unwaith eto at ein camp aruthrol i greu clwb o’r newydd, sefydlu strwythur cadarn a chriw anhygoel o gefnogwyr, ynghyd â llwyddiant ar y cae sydd unwaith eto wedi dod â gwên i wynebau cefnogwyr pêl-droed o Fangor.

Mae angen cynllunio ar gyfer y dyfodol, a rhan o hyn oedd ceisio barn yr aelodau ynglŷn ag enw’r clwb. Trwy fwyafrif o 2-i-1, roedd cymeradwyaeth i newid yr enw i gynnwys “Dinas” – felly rydym yn cwblhau’r cylch i ddod yn CPD Dinas Bangor 1876. Ond yr un peth sydd angen i ni gofio yw bod yr 1876 yma i aros – dyma ein brand, ein hunaniaeth, a’n balchder mewn creu clwb mor wych.

Ar y cae, hoffwn ddiolch i Johno a’i dîm hyfforddi am eu holl waith caled, yn ein sefydlu fel tîm Haen 2, ac am yr ymroddiad a’r ymrwymiad maent yn ei ddangos wythnos ar ôl wythnos. Rydym yn ffodus i’w cael, ac yn edrych ymlaen at lwyddiant yn y dyfodol.
Hoffwn hefyd ddiolch i’r rhai sy’n gwirfoddoli i’r clwb. Rydym bob amser angen mwy o bobl i helpu, felly ystyriwch yr hyn y gallwch ei gynnig, naill ai ar ddiwrnod gêm fel stiwardiaid cyffredinol, neu wrth ddefnyddio'r sgiliau sydd gennych i'n helpu i symud y clwb yn ei flaen. Enghraifft wych o hyn yw’r gwaith y mae Jack a Max yn ei wneud i wella ein proffil cyfryngau cymdeithasol ac i greu podlediadau 1876. Mae'r podlediad cyntaf allan, gyda mwy i ddilyn yn fuan.

Ar ôl cael Rhagfyr tawel, bydd ein gemau yn dod yn dod yn rheolaidd ac yn gyflym, gan ddechrau gyda Bae Colwyn ar Ŵyl San Steffan. Darllenwch y postiadau cyfryngau cymdeithasol am drefniadau ar gyfer y gêm hon.

Dyma edrych ymlaen at 2025 cyffrous, ac i deulu 1876 symud ymlaen gyda’n gilydd i’n gwneud y gorau y gallwn fod, gan roi Bangor yn gadarn ar fap pêl-droed Cymru, a dod â balchder i’n dinas gwych.

Further reading