**An English translation of this article is available here**
Yn wreiddiol o Abergele, mae Llion Jones yn gyfarwddwr. Canolfan Bedwyr, uned iaith Gymraeg Prifysgol Bangor. Adnabyddus fel bardd, ennillodd o Cadair Eisteddfod 2000 yn Llanelli, ag mae o wedi ysgrifennu cyfrol Bardd ar y Bêl am daith Cymru i Euro 2016 yn Ffrainc. Mae o'n dilyn Bangor 1876 ag wedi cael sgwrs gyda ni am y tymor hwn, pêl-droed yn gyffredinol a chysylltiadau rhwng pêl-droed a bardonniaeth...
Sut faset ti'n disgrifio’r profiad o wylio gemau Bangor 1876 y tymor hwn?
Mae o wedi bod yn brofiad llesol iawn o ran fy ap Groundhopper. Dw i wedi gallu ychwanegu nifer o gaeau newydd nad oeddwn i erioed wedi bod ar eu cyfyl o’r blaen – o Langoed a Bae Trearddur ym Môn i feysydd FC United of Manchester a Chaer dros y ffin. Ond y peth gorau un am ddilyn Bangor 1876 ydy’r ymdeimlad o fod yn rhan o rywbeth mwy. Mae cymuned y clwb yn pontio’r chwaraewyr, y cefnogwyr a’r ardal mewn ffordd nad ydw i wedi’i brofi ers blynyddoedd lawer. Mae’r ffordd y mae’r chwaraewyr profiadol yn annog a meithrin y chwaraewyr iau yn rhan fawr o hynny hefyd, gyda’r bartneriaeth rhwng Jonno a Cian ynghanol yr amddiffyn yn enghraifft berffaith.
Oes gen ti uchafbwyntiau o'r tymor hyd yma?
Y gêm fwyaf cofiadwy yn sicr oedd y gêm yn rownd gyntaf Cwpan Cymru yn erbyn Penycae. Roedd yna dorf fawr yn Nhreborth y prynhawn hwnnw, ond dw i’n siŵr bod dros eu hanner wedi troi am adre a cholli gôl munud olaf Matthew Lock a holl ddrama yr amser ychwanegol a’r ciciau o’r smotyn. Roedd sefyll tu ôl i’r gôl pan sgoriodd Benn Lundstram ym Manceinion yn brofiad arbennig hefyd. Doeddwn i ddim wedi cymryd rhan mewn pile-on o’r fath ers dyddiau ysgol! O ran safon y gêm, roeddwn i’n meddwl fod y gêm gartref yn erbyn Nefyn yn hysbyseb gwych i bêl-droed lleol.
Rwyt ti’n adnabyddus fel bardd. Ydy o’n wir fod John Toshack wedi bod yn dipyn o ysbrydoliaeth i ti fel bardd?
I fod yn deg, dim ond 12 oed oeddwn i pan gyhoeddodd John Toshack ei unig gyfrol o farddoniaeth Gosh it’s Tosh, ond roedd Toshack yn arwr i mi yng nghrys Cymru ac roedd o wedi mentro cyfuno dau beth yr oeddwn i wrth fy modd yn chwarae gyda nhw – geiriau a pheli! Wrth edrych yn ôl, doedd Toshack ddim cystal gyda’i ben a’i bapur ag oedd o gyda’i ben. Roedd o’n ysgrifennu yn yr un math o steil gocosaidd â Muhammad Ali yn yr un cyfnod, ac fe wnaeth un adolygydd angharedig (y bardd Gwyddelig, Tony Curtis) awgrymu y dylai Tosh sticio at bêl-droed. Fel y mae’r teitl a ddewisodd ar ei lyfr yn awgrymu, roedd Tosh yn ddigon call i wybod hynny. Ond o dan ddylanwad Tosh, fe wnaeth un hogyn 12 oed roi llyfr bach ei hun at ei gilydd gyda’r teitl Gee it’s Lli a blynyddoedd lawer yn ddiweddarach, dw i’n dal i gael gwell ymateb i gerddi pêl-droed nag unrhyw beth arall.
Pa feirdd faset ti'n hoffi eu gweld yn chwarae pêl-droed a pha chwaraewyr pêl-droed faset ti'n hoffi eu gweld yn ysgrifennu cerddi?
Mae’r pethau yr ydw i’n eu hedmygu mewn barddoniaeth yn bethau yr ydw i’n eu hedmygu mewn peldroedwyr hefyd – dawn, gweledigaeth, creadigrwydd, dychymyg a thechneg. I mi, mae’r hyn y mae chwaraewyr fel Messi, Ronaldo a Bale yn gallu ei wneud ar gae, a’r hyn yr oedd Maradona, Cantona a Cruyff yn ei wneud mewn blynyddoedd a fu, yn debyg iawn i farddoniaeth heb eiriau. Mae pêl-droed a barddoniaeth ar eu gorau yn gallu mynd â’ch gwynt.
Fel mae’n digwydd, roedd dau o fy hoff feirdd Cymraeg yn bêl-droedwyr da . Roedd T.H. Parry-Williams yn disgrifio ei hun fel ‘blaenwr sydyn’ yn nhîm Coleg yr Iesu, Rhydychen a Gerallt Lloyd Owen yn asgellwr de chwim i’r Bala Boys’ Junior XI.
Ar Twitter, rydym wedi gweld dy fod ti'n trydar mewn cynghanedd? Wrth wylio pêl-droed, wyt ti erioed wedi defnyddio englyn er mwyn sarhau dyfarnwr o'r teras?
Ar ôl fy mhrofiadau yn dyfarnu timau dan 9 a dan 11 Penrhosgarnedd, dw i’n trio fy ngorau i beidio â sarhau dyfarnwyr. Dw i’n chwarae 5 yr ochr gydag un o ddyfarnwyr Cynghrair Gwynedd bob wythnos ac yn ymwybodol iawn fod dyfodol pêl-droed ar lawr gwlad yn dibynnu ar gael digon o rai tebyg iddo sy’n barod i dreulio eu prynhawniau Sadwrn yn cadw trefn. Wedi dweud hynny, mae’r llinell ‘Uffar hyll yw’r reffarî’ yn llinell wych o gynghanedd, a dydy fy mharch at ddyfarnwyr ddim yn fy stopio rhag gweiddi ar yr Albanwr sy’n rhedeg y lein ar ran Bangor 1876!
Oes yna un peth y baset ti’n hoffi ei newid am bêl-droed?
Dw i’n poeni fod pêl-droed yn dilyn criced y tu ôl i wal-dalu. Mae’r symudiad hwnnw wedi cael effaith niweidiol iawn ar griced ar lawr gwlad a diddordeb plant ifanc yn y gamp. Fe ddylai plant gael gweld eu harwyr yn chwarae a chael eu hysbrydoli ganddyn nhw heb i’w teuluoedd orfod tanysgrifio i nifer o wasanaethau gwahanol. Diolch byth am raglenni fel ‘Sgorio’ a ‘Match of the Day’. Diolch byth hefyd am bêl-droed lleol.