News & EventsLatest NewsCalendar
Dydd Gwener o'r Teras: Ifor Glyn Evans

Dydd Gwener o'r Teras: Ifor Glyn Evans

Jonathan Ervine29 May 2020 - 07:30
Share via
FacebookX
https://www.bangor1876.com/new

Cyn-brifathro sy'n "wrth ei fodd yn cefnogi'r 1876"

To read an English translation of this article, please click here

Mae nifer ohonoch yn adnabod Ifor Glyn Efans sydd wedi dychwelyd i fyw yn yr ardal ac yn gefnogwr brwd i Bangor 1876. Gyda’i brofiad gyda Chlwb Rygbi Nant Conwy, gofynodd Dafydd Hughes pa gyngor sydd gan Ifor i ni wrth i ni geisio gwreiddio’r Clwb yn y Gymuned.

Yn dy amser, 'rwyt wedi bod yn ddyfarnwr, ac yn llais cyfarwydd ar yr uchelseinydd yn Ffordd Farrar, cyn symud i fyw i Ddyffryn Conwy. Wedi dychwelyd i'r ardal 'rwyt yn gefnogwr brwd i 1876. Beth sy'n dy ddenu?

Ar un wedd, mae’r ateb i hyn yn syml! Mae’r cliw yn yr ail ran o’r cwestiwn – ‘Wedi dychwelyd i’r ardal…’ Dechreuais ddilyn Clwb Pel Droed Dinas Bangor yn niwedd 60’au ganrif ddiwethaf tra’n y coleg ym Mangor. Roedd ‘Addysg Gorfforol’ yn rhan o’r cwrs am y flwyddyn gyntaf yn y coleg yr adeg hynny a rhan o’r cwrs hwnnw oedd dilyn cwrs dechreuol i Ddyfarnwyr Pel droed. Mwynhau’r rhan honno a symud ymlaen i gwblhau’r cwrs cyfan a chofrestru fel dyfarnwr yng Nghogledd Cymru.

Cofio fy nghȇm swyddogol gyntaf – ar gaeau Treborth yn y ‘Caernarvon & District League’ lle roedd ‘Hirael United’ yn chwarae ‘Nefyn United’. Roedd hynny 48 mlynedd YN ÔL YN UNION i’r prynhawn roedd Bangor 1876 yn wynebu Nefyn United yng Nghyngrair Gwynedd fis Medi diwethaf. Felly,yn bersonol, roedd y gȇm ar y cae 3G ddechrau Medi yn dwyn atgofion hyfryd. I mi, dyna’r gȇm a ail- ddeffrodd fy mrwdfrydedd mewn pel droed lleol ac, o’r diwrnod hwnnw ymlaen, rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r 1876 a chael sgwrs efo cymaint o ffrindiau a fyddai’n mynychu ‘Farrar Road’ erstalwm!

Yr wyt wedi bod yn swyddog gyda Chlwb Rygbi Nant Conwy yn ystod cyfnod o lwyddiant a thwf. Oes gwersi i ni wrth i ni geisio datblygu clwb sy'n awyddus i lwyddo ar y maes yn ogystal â bod yng nghanol gweithgareddau cymunedol?

Ni chredaf fod yna lawer iawn i’w ddysgu gan Bangor1876. Dau bwynt a fu o gymorth mawr i Glwb Rygbi Nant Conwy tra y bum i’n cynorthwyo’n y cefndir yno:

• Pan ddechreuais yn fy swydd yn Ysgol Dyffryn Conwy, bu i Gwmni ‘Royal Mail’ ar y pryd gynnig cymorthdal o £3,000 i unrhyw ysgol a fuasai’n cynnig pob math o chwaraeon ar ôl amser ysgol, ar yr amod fod yr ysgol honno’n cyd-weithio’n agos gyda Chlybiau Chwaraeon lleol o bob math. Bu inni lwyddo i gael y grant llawn a dyna ddechrau rhedeg clybiau rhwng 3.45 a 5.30 ar bob prynhawn o’r diwrnod ysgol. Am flwyddyn neu ddwy, gwelid y plant yn chwarae perl droed, golf, ‘archery’, chwaraeon tu fewn e.e. tenis bwrdd ac, wrth gwrs, rygbi. Tros y blynyddoedd, lleihaodd yr ymwneud ȃ’r clybiau lleol, ar wahȃn i’r un gyda Nant Conwy – cysylltiad sy’n parhau hyd heddiw. Felly,ar y pryd, gwelwyd bechgyn ( a merched) yn dod i fewn i rygbi yn 11 oed ac yn chwarae’n rheolaidd ac yn cael eu hyfforddi gan hyfforddwyr profiadol y Clwb Rygbi – dechrau ‘academi’ rygbi!

• Penderfynwyd fel yr oedd nosweithiau Gwener yn mynd yn fwyfwy prysur gyda tua 250 o blant / ieuenctid yn ymarfer ar gaeau’r Clwb [Pant Carw] fod yn rhaid cael trefn ar y bobl oedd yn y ‘cefndir’ fel peatae. Yn gyfreithiol, sefydlwyd Bwrdd o Gyfarwyddwyr (di-dȃl) oedd yn cyfarfod unwaith pob dau fis. Ond, yn bwysicach, lluniwyd 5 o Baneli, oedd yn cyfarfod unwaith y mis: Paneli: SAFLE, CHWARAE RYGBI, CODI ARIAN, IEUENCTID (rhwng 6 ag 16 oed) a GENETHOD / MERCHED. Gydag 8 aelod gwahanol ym mhob un o’r Paneli ag 8 Cyfarwyddwr, roedd hynny’n rhoi 48 o wirfoddolwyr oedd yn rhoi llawer iawn o amser a chymorth i’r Clwb.

'Rwy'n deall dy fod wedi dod ar draws ein Cadeirydd ag un o'n hyfforddwyr, heb sôn am rhai o'n cefnogwyr, wrth ddysgu ym Mangor, oes gennyt unrhyw atgofion neu gyfrinachau i'w rhannu?

Ofnaf mai ateb byr fydd i’r cwestiwn yma – ni fuaswn yn meiddio nodi unrhyw beth am unrhywun o’m cyn – ddisgyblion yn ysgolion Friars, Tryfan a Syr Hugh Owen dim ond nodi pa mor falch yr ydwyf i’w gweld o gwmpas caeau pel droed Gwynedd y dyddiau hyn. Diolch iddynt hefyd am fy nghofio fel y ‘Whiskars’ blin hwnnw fyddai wrth ei fodd allan yn cicio peli ar amser cinio efo’r myfyrwyr, ond, sy’n dal i ddod ataf efo straeon da o’u hamser yn yr ysgol erstalwm.

Fel pawb arall, mae'n debyg dy fod yn gweld eisiau chwaraeon byw yn ystod y cyfnod diflas 'ma, pa mor bwysig yw'r wefan yma i helpu llenwi'r bwlch?
Cytuno’n llwyr fod y cyfnod yma’n un diflas iawn. Un ffordd o dreulio amser ‘dan glo’ fel petae, sy’n gweithio i mi yw edrych ar wefannau Clybiau a Chymdeithasau Chwaraeon. Codi’n fore a gweld tybed oes gan Jonathan Ervine, ‘Johnno’ neu Dafydd Hughes, gwis neu ‘canfod y bȇl’ neu hanesion difyr ar wefan Bangor 1876. Yna, ymlaen i wefan Clwb Rygbi Nant Conwy, cyn mynd at wefannnau Cymdeithas Bel Droed Cymru ag un Undeb Rygbi Cymru. Sgwrsio, tros y ffôn, wedyn efo hwn a’r llall er mwyn rhoi barn am rywbeth newydd sydd ar ryw wefan neu’i gilydd. Cyn troi rownd, mae’r bore wedi prysur fynd! Diolch hefyd i bawb sy’n cyfrannu i’r wefan ac, yn wir, sy’n dod i gefnogi Bangor 1876. Arhoswch yn ddiogel a gobeithio eich gweld i gyd eto cyn bo hir iawn!

Diolch i Ifor am ei sylwadau. Mae Bangor 1876 yn awyddus i ddatblygu ein gallu mewn nifer o ffyrdd ac wedi mabwysiadu strwythur bwrdd/panel tebyg i Nant Conwy yn ogystal â’r Ganolfan Datblygu i bobl ifanc, ‘Rydym yn barhaol awyddus i gryfhau ein trefniadaeth a byddem yn falch iawn o glywed gan unrhyw aelod/berchennog sydd â chyfraniad i’w gynnig - meddyliwch beth sydd gennych i’w gyfrannu i’r Clwb - cysylltwch drwy e-bostio ysgsec@bangor1876.com

Further reading