Darllenwch barn Ian Gill am bêl-droed, cerddoriaeth a mwydro...
To read an English translation of this interview, please click here
Sut faset ti'n disgrifio’r profiad o wylio gemau Bangor 1876 y tymor hwn?
Erbyn bore y gêm gyntaf o’r tymor, ‘roedd cyfnod o tua ugain mis wedi pasio ers i mi fynd allan a gwylio gêm. O ganlyniad, ‘roeddwn wedi colli cysylltiad â nifer o hen selogion BCFC, a ddim yn siŵr iawn pwy arall fyddai’n troi fyny; felly, pa mor braf oedd gweld y bar hwnnw’n y clwb rygbi yn Bethesda yn llawn o wynebau cyfarwydd, croesawgar??
Ar ôl yr holl sinigiaeth â’m alltudiodd i o Nantporth – ac o bêl-droed yn gyffredinol – mae’r profiad o ddilyn Bangor 1876 wedi bod yn bleser ac wedi rhoi gwên ar ‘y wyneb i eto. Brwdfrydedd a sgiliau’r tîm ifanc ar y cae sy’n rhannol gyfrifol am hynny, wrth gwrs; ond, mae sawl cefnogwr a cholofnydd eisoes wedi cyfeirio at gyfraniad y ‘moider’ at liw diwrnod gêm. Mae’n rhaid gen i fod ‘moider’, fel gwin, yn gwella efo oed, oherwydd er i’r tymor gael ei thorri’n ei blas, roedd safon y mwydro’n rhyfeddol o uchel y tymor yma. Vintage, a deud y gwir.
Oes gen ti uchafbwyntiau o'r tymor ?
Ar lefel dyngarol, roedd cyrraedd bar Treborth ar ddydd Sadwrn cyn ‘Dolig, a gweld maint haelioni y cefnogwyr at apêl banc bwyd Johnno’n codi ysbryd. O ran diwrnod allan, roedd trip Llanystumdwy yn ffab, o’r dechrau i’r diwedd; ac o ran gemau, wnes i wir fwynhau’r un yn erbyn Nefyn ar ddechrau’r tymor, a’r gêm yn Bethesda oedd, am sbel, yn ddipyn agosach nag oedd y sgôr terfynol yn ei awgrymu.
Fel rhywun sy'n licio ceddoriaeth, pan caneuon faset ti'n licio eu clywed ar y PA system newydd yn Nhreborth?
Er mod i’n ffan o Queen yn ystod cyfnod euraidd y band, rhwng ’74 a ‘77 , wnes i ‘rioed gymryd at ‘We are the champions’ fel anthem, felly ‘Na’ i honno. ‘Sŵn i’n hoffi ‘Move your feet’ gan Junior Senior, neu ‘Pasilda gan Afro Medusa cyn gêm, ond wedyn ‘dych chi’n cofio pa mor hynod o agored ydi Treborth; ond, ‘does ‘na’m byd fel dipyn o eironi pan fo’r glaw yn tywallt a chorwynt yn rhuo.
Pa ganwyr neu bandiau faset ti'n hoffi eu gweld yn chwarae pêl-droed a pha chwaraewyr pêl-droed faset ti'n hoffi eu gweld yn canu?
Wel, mae nghyd- fwydrun i ar ‘Ar y marc’, Yws Gwynedd, yn un o’r bois prin hynny i lwyddo i wneud y ddau beth. Dwi’n cael hi’n anodd i feddwl am bêl-droedwyr sy’n rock’n’roll, dyddia’ yma. Lle mae’r mavericks? Ddaru Madonna wneud y ffilm ‘Evita’, ond dwi’n credu tasa Diego Maradona yn mynd yn full-on Tony Ferrino mode, ac yn mynd ati i floeddio ‘Don’t cry for me , Argentina’, y byddai hynny’n werth ei weld. Roedd y gyfres honno ar Netflix amdano’n hyfforddi’n Mecsico yn dangos ei fod yn parhau’n gymeriad sy’n cyfareddu.
Oes yna un peth y baset ti’n hoffi ei newid am bêl-droed?
Ffans sy’n credu mai llwyddiant millionaires Lerpwl neu millionaires Man Utd neu millionaires unrhyw glwb arall ydy’r peth pwysica’ mewn bywyd. Os ydi rhywun yn deud hynny wrthoch chi, mae rhywbeth o’i le. Nid dilyn pêl-droed ydi’r peth pwysica’ mewn bywyd; dydi o’m hyd yn oed y peth pwysicaf yn ystod yr awr a hanner hynny ar bnawn Sadwrn. Rheiny sy’n sefyll wrth eich ochr yn rhannu jôc neu’n agor eu calonnau, y cwmni. Hwnnw sy’n bwysig. Dwi’n credu fod ffans go iawn yn gwybod hynny’n barod. Anghofiwch y Premiership, pêl-droed cymunedol ydi’r dyfodol.
At be wyt ti'n edrych ymlaen y tymor nesaf?
Yr oll roeddwn i am weld tymor yma oedd i’r clwb gwbwlhau tymor – profi fod y peth yn bosib i’w wneud. Wnes i ‘rioed feddwl fod rhaid i Bangor 1876 ennill cwpan na chynghrair i brofi llwyddiant. Cawn weld ym mha gynghrair y byddwn ni tymor nesaf, ond un peth dwi’n sicr ohono – byth y mwydro’n parhau’n y dosbarth cyntaf.
Darllenwch farn Joe Shooman am 'mwydro' a phêl-droed ym Mangor: https://www.bangor1876.com/news/its-time-for-a-midweek-moider-2539999.html