News & EventsLatest NewsCalendar
Dydd Gwener o'r Teras: Gwydion Edwards

Dydd Gwener o'r Teras: Gwydion Edwards

Jonathan Ervine17 Apr 2020 - 07:30
Share via
FacebookX
https://www.bangor1876.com/new

"Dylai pob clwb bod dan perchnogaeth cefnogwyr"

Sut faset ti'n disgrifio’r profiad o wylio gemau Bangor 1876 y tymor hwn?
Mae’r profiad wedi bod yn ffantastig! Mae hi wedi bod yn bleser edrych ar fy nghlwb eto a chael y matchday vibes yn ôl, mynd am beint efo’r boys! Mae 1876 ydy’r dyfodol, y peth positif oedden ni wedi bod yn disgwyl!

Oes gen ti uchafbwyntiau o'r tymor hyd yma?
Roedd y gêm gyntaf yn Parc Broadhurst yn atgof arbennig a theimlad spesial! Ond rwyf yn gorfod mynd efo’r buddugoliaeth ar ciciau o’r smotyn yn erbyn Penycae! Dod yn ôl tair gwaith ac ennill ar ciciau o’r smotyn! Roedd yr awygylch y diwrnod yna yn anhygoel ac yn cofiadwy!

Fel rhywun sydd wedi bod i lot o gemau yn Nhreborth a hefyd gemau oddi cartref, oes gen ti hoff 'away trip' hyd yma?
Wel, roeddwn i’n edrych ymlaen at fynd lawr i Nefyn ond roedd y gêm gyntaf yn Parc Broadhurst yn arbennig, does dim trip arall sy’n dod yn agos i hwna! Y awyrgych, y miwsig, y vibes… Rydym yn mynd i gofio’r diwrnod am amser hir, ac yn sicr ein gôl gyntaf marvellous!

Sut wyt ti'n delio gyda'r diffyg pêl-droed ar hyn o bryd?
Dw i ar goll! Mae’r teimlad o beidio cael mynd i’r pub ar ddiwrnod off yn un peth ond byw heb pêl-droed yn rhywbeth arall! Ond, cadw’n bositif, mae iechyd yn dod cyntaf ! Edrych ymlaen at pan rydym yn chwarae eto ar ôl i’r hunlle yma wedi mynd!

Oes yna un peth y baset ti’n hoffi ei newid am bêl-droed?
Dylai pob clwb bod dan perchnogaeth cefnogwyr, neu o leiaf canran o'r clwb bod dan perchnogaeth cefnogwyr, a rhoi cyfle i gefnogwyr mynegi barn am y clwb! Hefyd, dylai pawb sy’n cefnogwr pêl-droed cefnogi ei glwb lleol oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod eu bod nhw’n colli allan ac i ba raddau mae hi’n gallu gwneud gwahaniaeth!

Cyfweliadau eraill gyda chefnogwyr:
Huw Pritchard: cliciwch yma
John Dexter-Jones: cliciwch yma
Llion Jones: Cymraeg / English
Mared Rhys: Cymraeg / English

Joe Shooman: cliciwch yma
Les Pegler: cliciwch yma

Further reading