News & EventsLatest NewsCalendar
Diweddariad o'r bwrdd (Mehefin 2020)

Diweddariad o'r bwrdd (Mehefin 2020)

Jonathan Ervine9 Jun 2020 - 07:30
Share via
FacebookX
https://www.bangor1876.com/new

Darllenwch neges Glynne Roberts i'n cefnogwyr

To see a version of this update in English, please click here.

Gobeithio bod teulu estynedig 1876 yn cadw'n dda ar yr adeg anodd hon.

Cynhaliodd y Bwrdd gyfarfod ar-lein arall yr wythnos hon i drafod materion y mae angen mynd i’r afael â nhw yn y dyfodol agos, yn benodol sut rydym yn paratoi ar gyfer y tymor nesaf.

Yn gyntaf, yn ystod yr wythnosau diwethaf fe'n coronwyd yn Bencampwyr Cynghrair Gwynedd. O ystyried mai dim ond 12 mis yn ôl y cawsom ein ffurfio, mae mynd trwy’r tymor gyda record 100% yn y gynghrair yn gyflawniad rhyfeddol, ac yn dyst i waith caled, penderfyniad a thalent ein staff rheoli, hyfforddi a chwarae. Llongyfarchiadau ar dymor godidog!

Hyd yn hyn, ‘does neb yn gwybod pryd y bydd pêl-droed yn ail-gychwyn yng Ngogledd Cymru, nac ym mha gynghrair y byddwn yn chwarae tymor nesaf - ond pa un bynnag ydyw, byddwn yn barod, ac yn anelu at gael ymgyrch lwyddiannus arall. Nid yw'n syndod, felly, bod llawer o'n cyfarfod Bwrdd wedi ymweud â thrafodaethau ynghylch cyllid:

• Aelodaeth: Ein bwriad ydi adeiladu ar y sylfaen aelodaeth ragorol o dros 670 o berchnogion y clwb. Ar gyfer y tymor nesaf, cytunwyd y bydd y gost aelodaeth yn £12, a £1 ychwanegol i unrhyw un sy'n dymuno dod yn gyfranddaliwr. Bydd manylion ar sut i ailgofrestru ar gael yn fuan iawn, ond rydym yn gobeithio fydd pobl wedi cofrestru erbyn 1 Gorffennaf.

• Nawdd: O gydnabod cyfraniad rhyfeddol ein noddwyr i helpu sefydlu’r clwb y tymor diwethaf, rydym hefyd yn gwerthfawrogi pa mor anodd fydd hi i lawer o'r unigolion a'r busnesau hyn yn yr amseroedd ôl-Covid. Fodd bynnag, gobeithiwn y bydd y noddwyr presennol yn parhau i'n cefnogi wrth i ni ymdrechu am lwyddiant ar lefel uwch.

• Easyfundraising: Heb unrhyw gost i'r unigolyn, os ydych chi'n cofrestru ar dudalen Easyfundraising y clwb bydd canran o'ch pryniant ar-lein yn dod i'r clwb. Ffordd hawdd, heb gost, o helpu i gynhyrchu arian. Dyma’r linc: https://www.easyfundraising.org.uk/causes/bangor1876/?invite=3VL900&referral-campaign=s2s

• Cyfleoedd codi arian newydd: Cytunwyd i sefydlu is-bwyllgor i edrych ar gyfleoedd codi arian yn y dyfodol, a gobeithio y bydd cefnogwyr sydd â diddordeb neu arbenigedd mewn codi arian yn dod ymlaen i gynnig eu cefnogaeth. Os hoffech chi helpu'r clwb gyda'i weithgareddau codi arian, cysylltwch ag un o'r Bwrdd. Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr eich cefnogaeth i greu strategaeth codi arian gynhwysfawr a fydd yn parhau i'n cadw ar sail ariannol gadarn, a byddwn yn sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn cael ei ddefnyddio er budd y clwb.

1876: i'r cefnogwyr, gan y cefnogwyr

Glynne Roberts
Cadeirydd Bangor 1876

Further reading