News & EventsLatest NewsCalendar
Diweddariad gan y Cadeirydd

Diweddariad gan y Cadeirydd

Jonathan Ervine21 Oct - 20:10
Share via
FacebookX
https://www.bangor1876.com/new

Neges i'n cefnogwyr gan Glynne Roberts

Yn dilyn Fforwm y Cefnogwyr yr wythnos hon, meddyliais y byddai’n ddefnyddiol darparu diweddariad ar gyfer y rhai nad oedd yn bresennol ynghylch y materion a drafodwyd.

Yn gyntaf, mae mater ymddygiad cefnogwyr. Rydym wedi derbyn dirwy drom gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru am y digwyddiadau ym Mae Colwyn, ac rydym dan y lach ar gyfer digwyddiadau mewn gemau eraill hefyd. Rydym yn glwb sy'n eiddo i gefnogwyr, yn falch o'n cysylltiadau cymunedol a'n henw da o gynnwys teuluoedd. Mae ein hymddygiad yn adlewyrchu ar bob un ohonom, ac mae angen i ni ddangos hyn mewn ffordd gadarnhaol, ar ein teithiau ar draws Gogledd Cymru ac yn ystod gemau cartref.

Yn ail, buom yn trafod y cynnig gan Gwmni Stadiwm Dinas Bangor i’r clwb ddod yn rhan o’r grŵp o dimau sydd wedi’u cwmpasu o fewn cytundeb y Stadiwm. Yn y pen draw, teimlad y Bwrdd ei bod yn bwysig i ni gadw ein hannibyniaeth a'n statws fel clwb y'n eiddo i gefnogwyr. Byddem wedi gorfod rhoi’r gorau i’r ddwy agwedd hyn i ddod yn rhan o gytundeb y stadiwm. Roedd cefnogaeth gyffredinol yn y cyfarfod i’r penderfyniad hwn, gan arwain at y clwb yn cysylltu â’r stadiwm i roi gwybod iddynt am ein penderfyniad. Rydym yn awyddus i weithio gyda Nick a’r stadiwm, ac i adeiladu ar y berthynas gweithio dda yr ydym wedi’i sefydlu. Mae’r stadiwm wedi bod yn un o’n prif noddwyr y tymor hwn, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y maent wedi’i darparu. Gobeithio y gellir adeiladu ar y berthynas hon wrth inni symud ymlaen i gytuno ar y camau nesaf, a gweithio ar gytundeb hirdymor i ni barhau i chwarae yn y stadiwm.

Cawsom hefyd sesiwn cwestiwn-ac-ateb gyda Johno. Ymhlith y materion a drafodwyd oedd yr annhegwch o amgylch ffenestri trosglwyddo, lle gall clybiau haen 3 arwyddo chwaraewyr o haen 2, ond mae'n rhaid i glybiau haen 2 gadw at y ffenestri trosglwyddo. O ganlyniad i hyn, rydym wedi colli Carl Jones i Fae Trearddur. Dymunwn yn dda i Carl a diolchwn iddo am ei gyfraniad mawr i Fangor 1876. Fodd bynnag, o ran arwyddo rhywun yn ei le, rhaid inni aros tan mis Ionawr.

Roedd yn amlwg o’r trafodaethau bod y cefnogwyr, y Bwrdd, a Johno i gyd yn rhannu’r uchelgais i symud y clwb hwn ymlaen. Felly gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd, adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i ddatblygu, a gwneud yn siŵr y gallwn fod y gorau y gallwn fod.

Further reading