News & EventsLatest NewsCalendar
Cwrdd â'r Bwrdd: Dafydd Hughes (rhan 1)

Cwrdd â'r Bwrdd: Dafydd Hughes (rhan 1)

Jonathan Ervine29 Jul 2020 - 07:30
Share via
FacebookX
https://www.bangor1876.com/new

Ysgrifennydd yn trafod ein gwreiddiau fel clwb

Yn y ran cyntaf o gyfweliad dau ran, ysgrifennydd y clwb Dafydd Hughes yn trafod gwreiddiau ein clwb ni ag bod yn aelod o'r bwrdd. Bydd yr ail ran yn dilyn yn fuan...

Pam wnest ti benderfynu fod yn rhan o Bangor 1876?
Y gwir yw nad oedd Bangor 1876 yn bodoli pan, fel un o gyfarwyddwyr (ar y pryd) CBC Nantporth, oedd yn poeni am rwystrau i ddefnydd cymunedol y maes 3G, ofynnais am gyfarfod gydag Andrew Howard o CBDC, a’i gyfarfod yn ystod mis Ionawr 2019.

‘Roedd hyn yn cyd-fynd ag anniddigrwydd mwy cyffredinol ymysg cefnogwyr peldroed y cylch gyda’r canlyniad fod y Gymdeithas Cefnogwyr (CC) wedi holi barn ynglŷn â ffurfioli ei statws cyfreithiol a, maes o law, ffurfio clwb peldroed newydd.

Yn ystod y cyfnod yma ymchwiliais yn fanwl i berchnogaeth clybiau gan gefnogwyr a beth oedd i’w ystyried os am feddiannu clwb oedd yn bodoli yn hytrach na sefydlu clwb newydd. Yn yr amgylchiadau, a chan gofio’r ffordd aeth pethau Gwanwyn diwethaf, nid oedd meddiannu’r Clwb presennol yn ymarferol gyda’r canlyniad mai sefydlu clwb newydd oedd yr unig ffordd i sicrhau fod clwb cynaliadwy, tryloyw, a chystadleuol yn gweithredu er budd y gymuned yn cynrhychioli’r Ddinas â’r ardal gyfagos.

Beth oedd dy brofiadau yn ystod cyfnod sefydlu’r Clwb llynedd?
‘Roedd y cyfarfodydd i gefnogwyr drafod rhinweddau sefydlu clwb newydd, pa drefniadau oedd eu hangen, a’r strwythur cyfreithiol, yn heriol oherwydd fy ansicrwydd byddai’r cefnogwyr eraill yn cytuno a’r ffordd ‘roeddem yn gweithredu.

Chwaraeodd y cyfryngau cymdeithasol eu rhan gyda llawer o drafod ar fforymau, Twitter a Facebook. Pan ddaeth i gynnal cyfarfodydd, fe lywiodd Einion Williams, cadeirydd y CC ar y pryd, y gweithgareddau yn fedrus. Talodd y gwaith cartref yn ymchwilio, a pharatoi cyflwyniadau, yn ogystal â fy mhrofiad yn wynebu ymchwiliadau cyhoeddus a chyfarfodydd cyhoeddus, ar ei ganfed fel tyfodd y gefnogaeth.

Canlyniad hanesyddol y cyfarfod terfynol yn Neuadd y Penrhyn, pan anerchwyd y gynulleidfa gan Andy Walsh, gynt o FC United of Manchester, a Phennaeth Perchnogaeth Gymunedol yn y Football Supporters' Association, oedd cymeradwyo sefydlu clwb newydd. Ar yr un llaw dyma benllanw’r broses ond, ar y llaw arall, megis dechrau oedd hyn

Beth yw dy brofiadau fel Ysgrifennydd y Clwb?
Y Clwb yw wyneb cyhoeddus Cymdeithas Budd Cymunedol sy’n debyg iawn i fusnes cydweithredol ac mae’n bwysig i ni gofio ein bod, erbyn hyn, yn fusnes yn hytrach na
chorff anghorfforedig heb unrhyw fath o reoleiddio. Mae gennym Fwrdd y Gymdeithas ‘rwyf yn aelod ohono ond nid yw fy swydd fel Ysgrifennydd y Clwb yn gysylltiedig â fy aelodaeth o’r Bwrdd nac, ychwaith, swyddogaeth Matt Johnson, Ysgrifennydd y Cwmni (ond hefyd, wrth gwrs, yn rhedeg y siop ar ddyddiau gêm).

Byddai rhai yn meddwl fod rôl Ysgrifennydd y Clwb yn ddwl a diflas, ‘does ddim dwywaith fod fy mhrofiad o wasanaethau llywodraeth leol a chenedlaethol yn fy ngalluogi i ddelio gyda’r ystod o dasgau gweinyddol sydd i'w cyflawni. Nis oes diwrnod yn mynd heibio heb orfod paratoi achosion i’w cyflwyno i CBDC; mynychu cyfarfodydd; neu waith o wythnos i wythnos ynghlwm â threfnu gemau a sicrhau ein bod yn cydymffurfio gydag amrywiaeth o reoliadau.

Mae angen sicrhau fod busnes y Clwb Peldroed yn rhedeg yn llyfn drwy drefnu cyfarfodydd Bwrdd y Clwb, delio â throsglwyddiadau a chofrestriadau, trefnu gwirfoddolwyr i ymwneud â thasgau amrywiol ar ddiwrnod y gêm, cysylltu gyda’n gwrthwynebwyr, a sicrhau perthynas waith agos iawn gyda rheolwyr y tîm.

Yn yr ail ran o'r cyfweliad, bydd Dafydd yn trafod ein tymor cyntaf, y cyfnod clo a'r tymor nesaf.

Further reading