Dyma ni, hanner ffordd drwy’r tymor a gêm gwpan bwysig o’n blaenau dydd Sadwrn. Mae’r clwb am gyhoeddi rhaglen arbennig fydd yn gyfle i adolygu misoedd cyntaf y Clwb ac edrych ymlaen at y datblygiadau cyffrous sydd o’n blaenau a hefyd ychydig o hiwmor. Diolch i bawb a gyfrannodd a ‘rydym yn gobeithio nad yw Banksy neu Banksies y Clwb yn meindio ein bod yn defnyddio un o’u delweddau ar y clawr! Diolch hogia.
Here we are, more or less halfway through the season and an important cup match facing us on Saturday. The club will be publishing a souvenir programme which gives an opportunity to review the first few months of our existence and to look forward to what promise to be exciting developments as we move forward together with a bit of humour. Thanks to everyone who contributed and we hope that the club Banksy or Banksies do not mind that we have used one of their images on the cover! Thanks guys.