Roedd Mared Rhys yn Ffrainc yn 2016 er mwyn dilyn Cymru yn yr Euros. Dyma ei hatgofion o dwrnament anhygoel...
Oedd Haf 2016 wir yn fythgofiadwy. Dwi ddim yn gallu coelio pa mor lwcus oni o fod wedi gwylio pob un o gemau Cymru yn yr Euros! Fues i yn Ffrainc am 27 diwrnod i gyd (os dwi’n cofio yn iawn) a wedi mwynhau pob eiliad.
Y moment gorau ohono fo i gyd yn bersonol oedd yn Bordeaux, yn Nouveau Stade de Bordeaux pan ymddangosodd y crys Cymru anferth ar y cae gyda cân official yr Euros yn cael ei chanu. Yr eiliad yna nath o daro fi, fod Cymru wedi gwneud hi i’r European Championships o’r diwedd!
Roedd hi’n wych cerdded o gwmpas Bordeaux, Toulouse, Paris ac ati a gweld llwyth o gefnogwyr Cymru, roedd hi’n union fel bod ar faes yr Eisteddfod ar rai adegau. Roedd rhai o enwogion Cymru ymysg y cefnogwyr, geshi gyfarfod Harry Wilson, Barry Horne, Ian Rush ag Andy Legg, to name a few.
Braf hefyd oedd gallu cymysgu gyda cefnogwyr o wledydd eraill yn enwedig yn y Fanzones, geshi hydynoed lun efo Saeson! Mae pwer pêl-droed yn anhygoel ac yn ffordd wych o ddod a pobl at eu gilydd. Un peth arall oedd yn grêt yn ystod y cyfnod yn Ffrainc oedd pan oedd pobl yn gofyn o le onin dod mi fyddwn i yn ateb ‘Wales’ a ‘Gareth Bale’ fyddai’n cael ei weiddi yn nôl ata’i!
Bydd 2016 yn anodd curo achos yn fwy na dim doedd neb yn disgwyl i Gymru wneud mor dda, yn cynnwys fi. Er hynny, dwi’n edrych ymlaen i weld beth a ddaw flwyddyn nesaf yn Euro 2020(2021).