News & EventsLatest NewsCalendar
Barod am y tymor newydd!

Barod am y tymor newydd!

Jonathan Ervine22 Jul - 19:03
Share via
FacebookX
https://www.bangor1876.com/new

Diweddariad gan cadeirydd 1876 Glynne Roberts

To read an English version of this article, click here.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ychydig cyn dechrau'r tymor newydd. Cafwyd cefnogaeth dda iawn i'r Cyfarfod, gyda thua 80 o aelodau yn bresennol.

O ran busnes y Cyfarfod, derbyniwyd y cyfrifon, ac am y tro cyntaf eleni, roeddent yn cynnwys archwiliad cwbl annibynnol. Llwyddwyd i basio'r archwiliad yn llawn, gan roi tystiolaeth i'r rheolaethau ariannol rhagorol o fewn y clwb.

O ran aelodaeth y Bwrdd, ail-etholwyd Linda Roberts a Dave Roberts ac, ar ôl ychydig o flynyddoedd i ffwrdd o brif fusnes y Bwrdd, ail-ymunodd Dafydd Hughes hefyd. Cafodd Robin Williams ei gyfethol yn aelod o’r Bwrdd, ynghyd â Meilyr Jones, Ysgrifennydd newydd y clwb. Mae Meilyr yn cymryd lle Simon Leeson, wnaeth waith aruthrol y tymor diwethaf. Diolch Simon.

Cytunwyd hefyd i gyfethol cynrychiolwyr o Bwyllgor Stadiwm Dinas Bangor. Mae’r gwelliannau trawiadol diweddar i’r stadiwm, ynghyd ag uchelgeisiau’r pwyllgor newydd, yn ei gwneud yn hanfodol inni gydweithio’n agos. Bellach, mae gennym y stadiwm gorau yn system byramid Cymru, a, gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod y tîm cyntaf yn cael yr holl gefnogaeth i wthio ymlaen tuag at frig Haen 2 a thu hwnt.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn archwilio’r posibiliadau o newid enw’r clwb i CPD Ddinas Bangor 1876. Os yw hynny’n ymarferol, bydd cyfarfod o’r cefnogwyr yn cael ei alw i bleidleisio ar unrhyw newidiadau arfaethedig. Nid yw pawb yn teimlo y bydd y newid yn gam cadarnhaol, tra bod eraill yn credu mai'r newid enw fydd y dilyniant naturiol tuag at wella hen glwyfau. Pa ffordd bynnag yr aiff, yr aelodau fydd yn penderfynu.

Ni fyddai seilwaith y clwb yn gyflawn heb ein trefniadau cymunedol ac ieuenctid. Mae angen i ni adeiladu ar gynnydd y llynedd, a gweithio ar sefydlu llwybr i chwaraewyr lleol ddod trwy ein rhengoedd i fod yn herio am le yn y tîm cyntaf.

Wrth i’r tymor newydd ddechrau, rydym yn obeithiol y gallwn adeiladu ar lwyddiannau’r llynedd. Wrth ennill dyrchafiad, ein cynllun oedd ar gyfer cyfnerthu ym mlwyddyn 1 – a rhagorwyd gennym drwy orffen yn 5ed yn y gynghrair – adeiladu ar y cynnydd hwnnw ym mlwyddyn 2, a mynd am ddyrchafiad ym mlwyddyn 3. Mae’r ffaith ein bod wedi cyflawni mwy nag yr oedd llawer ohonom yn ei ddisgwyl tymor diwethaf yn argoeli'n dda ar gyfer y tymor newydd. Bu rhai ychwanegiadau gwych i’r garfan dros yr haf, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddechrau’r ymgyrch newydd.

Gyda gwell cyfleusterau yn y stadiwm, carfan gryfach, a’r uchelgais i wella’n barhaus, rydym yn gobeithio y gallwn adeiladu ar y gefnogaeth ragorol a gawn, gartref ac oddi cartref. Mae tocynnau tymor ac aelodaeth clwb ar gael, felly ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon wrth i ni anelu unwaith eto at wneud pobl Bangor yn falch o glwb Bangor 1876.

Further reading